EricHUGHESDymuna Catherine, Helen, Dafydd a theulu'r diweddar Eric Hughes o Morfa Brenin, Bodorgan ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid gwerthfawr iawn. Diolch yn fawr am y llu o gardiau, galwadau ffôn, yr ymweliadau a'r rhoddion hael o £1,586 a dderbyniwyd er cof am Eric yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Ward Prysor, Ysbyty Gwynedd a Ward Peblig, Ysbyty Eryri. Diolch arbennig i Melvin Rowlands Trefnwyr Angladdau a'i gyd-weithwyr am eu trefniadau urddasol a gofalus, i'r Parchedig Elizabeth Roberts am ei gwasanaeth teimladwy ac i Mr Arwel Jones wrth yr organ. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates